25 Medi 2015
Cais am wybodaeth ychwanegol am Swyddogion Cymorth Cymunedol
Annwyl Weinidog
Diolch i chi am ddod i’n cyfarfod ar 24 Medi 2015 i roi tystiolaeth mewn perthynas ag Ymchwiliad Etifeddiaeth y Pwyllgor. Yn dilyn y sesiwn honno, cytunodd yr Aelodau y dylwn ysgrifennu atoch i ofyn i chi i egluro’r canlynol -
· nifer y Swyddogion Cymorth Cymunedol ychwanegol sydd wedi cael eu defnyddio o ganlyniad i gyllid gan Lywodraeth Cymru; a
· chyfanswm nifer y Swyddogion Cymorth Cymunedol yng Nghymru bellach o’i gymharu â’r cyfanswm cyn dyrannu cyllid Llywodraeth Cymru.
Byddai’n ddefnyddiol pe bai modd i chi gynnwys ffynhonnell unrhyw ystadegau a ddarperir gennych.
Yn ogystal, byddai’r Pwyllgor yn falch pe bai modd i chi ddarparu ymateb pellach i’r pryder bod Swyddogion Cymorth Cymunedol a ariennir gan Lywodraeth Cymru yn cymryd lle y rhai nad ydynt bellach mewn swyddi o ganlyniad i doriadau yng nghyllid y Swyddfa Gartref.
Edrychaf ymlaen at gael ymateb buan gennych.
Yn gywir
Christine Chapman AC
Cadeirydd